2012 Rhif  934 (Cy. 120)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (“y Fframwaith”), sy'n gorfod gosod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ac yn cael darparu canllawiau. Rhaid i'r awdurdodau tân ac achub roi sylw i'r Fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012 yn lle Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008-2011.

Bydd Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012 yn cael effaith o 20 Ebrill 2012 ymlaen. Gellir cael copïau o Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012 gan y Gangen Tân a Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. Fe'i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru (http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/publications/framework2012?lang=cy) ar 27 Mawrth 2012.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8254.

 


2012 Rhif  934 (Cy. 120 )

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2012

Gwnaed                               24 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       27 Mawrth 2012

Yn dod i rym                           20 Ebrill 2012

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21(6) a 62 o Ddeddf  y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([1]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub neu bersonau yr ystyrir eu bod yn eu cynrychioli hwy, personau yr ystyrir eu bod yn cynrychioli cyflogeion awdurdodau tân ac achub a phersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn  y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 20 Ebrill 2012.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub

2. Bydd y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, a baratowyd gan Weinidogion Cymru, sy'n dwyn yr enw “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012” ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 27 Mawrth 2012, yn cael effaith fel diwygiad, sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn arwyddocaol, o Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008 -2011([2]).

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

 

24 Mawrth 2012

 



([1])           2004 p.21. Mae'r pwerau o dan adran 21 o Ddeddf  y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Yr oeddent wedi eu breinio'n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.

([2])           Rhoddwyd effaith i Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2008-2011 gan O.S. 2008/2298 (Cy.197).